BEICIO
Mae’r amodau’n berffaith i feicwyr yn Llyn Brenig. Cewch feicio yn eich pwysau eich hun, dim ots a ydych chi’n un am garlamu ar hyd un o’r llwybrau hir, neu roi cynnig ar drac mwy ymestynnol. Bydd eraill am fwynhau taith fwy hamddenol, gan ymhyfrydu yn y bywyd gwyllt ac aros i ymlacio yn un o’r safleoedd picnic.
Mae yna rwydwaith o lwybrau sydd wedi eu marcio ar eich cyfer, neu croeso i chi ffeindio’ch ffordd eich hun.
Dyma’r chwe phrif lwybr beicio:
Llwybr Brenig (9.5 milltir)
Taith ar hyd lannau cronfa Brenig - rhan fwyaf yn fflat ond lethr serth hanner ffordd gyda olygfa wych o'r llyn a'r rhostiroedd.
Llwybr Alwen (7 milltir)
Sy’n cychwyn ym maes parcio cronfa ddŵr Alwen
Llwybr y Cylch (9.5 milltir)
Sy’n cyfuno llwybrau Brenig ac Alwen
Llwybr y Fforest (2 milltir)
Sy’n cysylltu llwybrau Brenig ac Alwen i greu llwybr cylchol byr o’r Ganolfan Ymwelwyr
Llwybr yr Argae (2.5 milltir)
Taith gylchol fer sy’n cynnwys ychydig o dir garw a llethrau serth
Llwybr Elorgarreg (5 milltir)
Trac hir a garw ag adran serth i’r rhai sydd â’u bryd ar gyffro
Llogi Beics
Mae Llyn Brenig yn cynnig cyfleusterau llogi beics sy’n ei gwneud yn haws i chi grwydro’r ystâd. Mae beics ac offer amddiffynnol ar gael i oedolion a phlant. Mae gennym ambell i declyn i gyplysu beics plant a threlars beics i’w llogi hefyd.
Cysylltwch â ni ymlaen llaw i gadw beic er mwyn arbed siom.
Cynigir disgownt o 10% ar gyfer grwpiau teulu o 4 neu fwy. Cynigir 10% o ddisgownt ar gyfer grwpiau o 10 neu ragor.
NODER: Rhaid i grwpiau bwcio’n gynnar
Mae pris llogi beic yn cynnwys llogi helmed, clo ac un pecyn trwsio teiars i bob grŵp.
Rhaid profi pwy ydych chi wrth logi’r beic trwy ddangos pasbort dilys, tystysgrif geni neu gerdyn banc.
Rydyn ni ar agor 7 diwrnod yr wythnos trwy gydol misoedd yr haf a thrwy drefniant ymlaen llaw rhwng Tachwedd a Mawrth.
Gellir bwcio trwy anfon neges e-bost neu drwy ffonio (manylion isod).
Mae’r amodau a’r telerau llogi cyflawn ar gael ar gais, a rhaid llenwi ffurflen sy’n cydnabod eich bod chi wedi darllen yr amodau a’r telerau hyn adeg llogi beic.
Gellir llogi beics rhwng 9.00ub –3.00up
2awr | 3awr | 4awr | 5awr | |
Oedolyn | £12 | £14 | £16 | £18 |
Plentyn | £7 | £8 | £9 | £10 |
Trelar neu declyn i gyplysu beic plentyn |
£7 | £8 | £9 | £10 |