In line with the latest Welsh Government announcement, Llyn Brenig will be closed for a fortnight when the firebreak comes into force from the evening of Friday 23 October and will re-open on Monday 9 November. Thank you for your ongoing support: together we will keep the local community and Wales safe. 

 

Yn unol â chyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru, bydd Llyn Brenig ar gau am bythefnos pan ddaw'r cyfnod atal byr rym o nos Wener 23 Hydref a bydd yn ailagor ddydd Llun 9 Tachwedd. Diolch am eich cefnogaeth barhaus: gyda'n gilydd byddwn yn cadw'r gymuned leol a Chymru yn ddiogel.

 

Canolfannau Dwr Cymru

Hamdden gyda Dŵr Cymru Welsh Water

Mae Dŵr Cymru’n berchen ar 91 o gronfeydd dŵr, sy’n amrywio mewn maint o 2 erw i 1,026, ac mae’n debyg bod y grŵp mwyaf un o bysgodfeydd brithyll dŵr llonydd ym Mhrydain o dan reolaeth y cwmni. Yn ogystal â chynnig pysgota, mae gan lawer o’r safleoedd amrywiaeth eang o gyfleusterau hamdden ar y dŵr ac ar y glannau.

Mae chwaraeon dŵr yn arbennig o boblogaidd, gan gynnwys hwylio, canŵio ac hwylfyrddio. Gallwch logi offer a chael hyfforddiant ar rai o’r safleoedd. Os byddai’n well gennych aros ar dir sych: gallwch fynd am dro ar hyd un o’r nifer o lwybrau sydd wedi eu marcio, gwylio adar yn y cuddfannau gwylio adar, neu fanteisio ar holl gyfleusterau’r Ganolfan Ymwelwyr. 

Os ydych chi’n bwriadu teithio, mae safleoedd Dŵr Cymru dan reolaeth ECARE ledled y wlad. Mae ymweliadau addysg ar gael i ysgolion trwy drefniant ymlaen llaw. 

Cwm Elan Llys y Frân Llandegfedd